Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2024
Amser:
09.00 -
09.26
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
·
Cyfnod 3 y Bil
Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (180 120 munud)
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd toriad o 10 munud yn cael ei gymryd rhwng y Cyfnod Pleidleisio a thrafodion Cyfnod 3.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024 -
Dydd Mercher 18 Medi 2024 -
Dydd Mercher 25 Medi 2024 -
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).
Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen ddiwygiedig a gyflwynwyd gan y Trefnydd a:
· chytuno ar y terfyn amser diwygiedig ar gyfer Cyfnod 2, sef 4 Hydref 2024;
· nodi y cytunwyd mewn egwyddor yn flaenorol i gyflwyno cynnig bod trafodion Cyfnod 2 yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor o’r Senedd Gyfan;
· cytuno i roi effaith i'r penderfyniad hwnnw drwy gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) i'w drafod ar 17 Gorffennaf 2024, yn amodol ar yr egwyddorion cyffredinol yn cael eu cytuno ar 16 Gorffennaf; a
· chytuno y cynhelir trafodion Cyfnod 2 ar ôl y Cyfarfod Llawn ar 1 Hydref 2024.
· yn ddarostyngedig i'r uchod, cytuno i ddyrannu slot cyfarfod i Bwyllgor o’r Senedd Gyfan at ddibenion trafodion Cyfnod 2 ar ôl y Cyfarfod Llawn ar 1 Hydref 2024.
Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid er mwyn ymgynghori â’r pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1455 Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau ar 18 Medi 2024.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion a’r awgrymiadau a ddaeth i law gan y pwyllgorau, a chytunwyd â’r awgrym y dylid trosglwyddo’r cyfrifoldeb am graffu ar borthladdoedd rhydd a’r economi gylchol o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) i Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA).
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gynnig bod cadeiryddion y pwyllgorau hyn, a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (LGH) yn trafod yn anffurfiol ffyrdd y gallent gydgysylltu ymhellach y gwaith craffu gweinidogol rhwng eu pwyllgorau, ac yn arbennig yn ystod gwaith craffu ar y gyllideb.
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2025, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a’r Haf 2025, fel y nodir isod:
|
Toriad |
Dyddiadau |
|
Toriad yr Haf 2024 |
Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024 – Dydd Sul 15 Medi 2024 |
|
Hanner Tymor yr Hydref 2024
|
Dydd Llun 28 Hydref 2024 – Dydd Sul 3 Tachwedd 2024 |
|
Toriad y Nadolig 2024 |
Dydd Llun 16 Rhagfyr 2024 - Dydd Sul 5 Ionawr 2025 |
|
Hanner Tymor y Gwanwyn 2025 |
Dydd Llun 24 Chwefror 2025 - Dydd Sul 2 Mawrth 2025 |
|
Toriad y Pasg 2025 |
Dydd Llun 7 Ebrill 2025 - Dydd Sul 27 Ebrill 2025 |
|
*Hanner Tymor y Sulgwyn 2025 |
Dydd Llun 26 Mai 2025 - Dydd Sul 1 Mehefin 2025 |
|
*Toriad yr Haf 2025 |
Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025 – Dydd Sul 14 Medi 2025 |
* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf a chytunodd hefyd ar y trefniadau arferol ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.